P-06-1212 Cyfraith Mark Allen – rydym ni am weld gorsafoedd cortyn taflu o amgylch pob safle dŵr agored yng Nghymru

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Leeanne Elizabeth Bartley, ar ôl casglu cyfanswm o 11,027 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Fe foddodd Mark Allen, oedd yn 18 oed, ar ôl neidio i mewn i gronfa rewllyd ar ddiwrnod poeth ym mis Mehefin 2018. Ym mis Mai 2019, fe fuom yn gwylio 3 cortyn taflu’n cael eu gosod wrth y fan lle buodd farw. Gellid bod wedi achub Mark pe byddent yno’n barod.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Rydym ni, teulu a ffrindiau Mark, o’r farn y dylai fod yn gyfraith gwlad i osod cortynnau taflu fel y rheini a osodwyd lle bu farw Mark, mewn lleoedd dynodedig o amgylch pob cronfa ddŵr, llyn, camlas ac ati. Wrth siarad â phobl sy'n gweithio ym maes diogelwch dŵr, e.e. gwasanaethau tân ac ati, mae cortynnau o'r fath wedi achub llawer o fywydau. Rydym ni eisiau achub bywydau ac arbed pobl rhag gorfod dioddef y torcalon a'r trasiedi o golli rhywun y maen nhw’n garu yn boddi.

 

Helpwch ni i wneud gwahaniaeth cadarnhaol er cof am Mark.

 

Diolch i chi, teulu a ffrindiau Mark

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Gorllewin Clwyd

·         Gogledd Cymru